Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 4 Mehefin 2018

Amser: 15.09 - 16.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4747


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Vikki Howells AC

Rhianon Passmore AC

Lee Waters AC

Tystion:

Andrew Slade, Llywodraeth Cymru

Simon Jones, Llywodraeth Cymru

Swyddfa Archwilio Cymru:

Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Matthew Mortlock

Staff y Pwyllgor:

Fay Bowen (Clerc)

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Sian Thomas (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Trafod y materion allweddol

1.1 Trafododd yr Aelodau y papur materion allweddol a gofynnodd bod drafft cychwynnol o argymhellion posibl yn cael ei baratoi er mwyn eu hystyried.

</AI1>

<AI2>

2       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon.

 

</AI2>

<AI3>

3       Papur(au) i'w nodi

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

3.2 Trafododd y Pwyllgor gynnwys y llythyr ar heriau digidoleiddio gydag Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol. Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, gofynnodd Aelodau bod y Clercod yn trafod y posibilrwydd o sefydlu grŵp rapporteur ynghyd ag Aelodau o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn.

 

</AI3>

<AI4>

3.1   Adroddiad(au) Archwilydd Cyffredinol Cymru: Adolygiad blwyddyn gyntaf o sut mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

</AI4>

<AI5>

3.2   Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (10 Mai 2018)

</AI5>

<AI6>

3.3   Heriau digidoleiddio: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (16 Mai 2018)

</AI6>

<AI7>

4       Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: sesiwn dystiolaeth

4.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, a Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru ar Wasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn

4.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon manylion am berfformiad prydlondeb y gwasanaeth awyr a nifer o weithiau y cafodd y gwasanaeth ei ganslo am resymau technegol o gymharu â pherfformiad y gwasanaeth o dan weithredwyr eraill ers 2014.

</AI7>

<AI8>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI8>

<AI9>

6       Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ofyn am fanylion y contract, pan y'i dyfernir.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>